Airbus: Cytundeb gwerth £17 biliwn am 250 o awyrennau
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn dathlu wrth i gwmni IndiGo o India archebu 250 o awyrennau A320neo - yr archeb fwyaf o'i fath.
Mae rhai sylwebwyr yn darogan y gallai'r archeb ddiogelu swyddi am flynyddoedd ym Mrychdyn.
IndiGo yw cwmni awyrennau domestig mwyaf India, gydag un o bob tri o deithwyr y wlad yn teithio ar ei awyrennau.
Mae'r archeb yn golygu y bydd gan y cwmni gyfanswm o 530 o awyrennau A320.
Dywedodd llefarydd ar ran Airbus bod yr archeb yn "newyddion da iawn" i Frychdyn ac i'r DU.
Yn y ffatri ym Mrychdyn mae adenydd yr awyrennau yn cael eu cynhyrchu, a byddai'r archebion sydd ar lyfrau'r cwmni ar hyn o bryd yn cymryd bron i 10 mlynedd i'w hadeiladu.
Ers i'r adenydd cyntaf ar gyfer awyrennau A320 gael eu hadeiladu yn 1984, mae'r ffatri wedi cynhyrchu 11,000 pâr o adenydd.