Caffi Machynlleth: Cwynion am arwydd 'di-chwaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae caffi ym Machynlleth wedi cael ei feirniadu gan drigolion lleol am roi arwydd "di-chwaeth" y tu allan i'r adeilad.
Mae'r arwydd y tu allan i gaffi Chimes yn y dref yn dweud: "The more you weigh, the harder you are to kidnap! Stay safe. Eat cake!! @ Chimes".
Mae rhai o'r trigolion lleol yn flin bod y perchnogion wedi dewis arwydd o'r fath yn y dref lle cafodd April Jones ei chipio a'i llofruddio dair blynedd yn ôl.
Dywedodd un o bobl y dref, Angharad Penrhyn Jones, ar Twitter ei fod yn "warthus". Dywedodd ei bod wedi siarad am y peth gyda pherchennog y caffi, ac "mae'n debyg bod yr arwydd yn 'ddoniol', bod y cipio wedi digwydd flynyddoedd yn ôl ac fy mod i'n orsensitif".
Mae'r awdur a'r cyn-ymgeisydd seneddol Mike Parker hefyd yn meddwl ei fod yn ddi-chwaeth. "Allwn i ddim credu'r hyn roeddwn yn ei weld," meddai. "Rwy'n meddwl fod yr arwydd yn hollol amhriodol".
Mae'r caffi yng nghanol tref Machynlleth, ger tŵr y cloc a oedd yn ganolbwynt i sylw lleol yn ystod y chwilio am April Jones, pan oedd rhuban mawr pinc wedi'i glymu iddo.
Mae perchennog Chimes yn amddiffyn y penderfyniad i osod yr arwydd y tu allan i'r caffi, gan ddweud ei fod wedi bod yno am wythnosau ac mai dim ond un sylw sydd wedi'i wneud amdano gan y cyhoedd.
"Mae teulu April Jones wedi bod yma'n ddiweddar" meddai, "pan oedd yr arwydd i'w weld, ac nid ydynt wedi dweud unrhyw beth."
Dywedodd ei bod wedi copïo geiriau'r arwydd oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac nad oedd unrhyw fwriad iddo fod yn ddi-chwaeth nac i bechu.
Ychwanegodd ei bod yn gweld erbyn hyn sut y gallai pobl gamddehongli'r neges, ond ei bod yn credu bod y rhai sydd wedi cwyno wedi'i "gymryd yn y ffordd anghywir."