E-sigaréts: 95% fwy diogel na thybaco

  • Cyhoeddwyd
ecigarettes
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ehangu'r gwaharddiad ysmygu i gynnwys e-sigarets erbyn 2017.

Mae polisi dadleuol Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwahardd defnydd e-sigaréts mewn adeiladau cyhoeddus o dan bwysau newydd, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad gan arbenigwyr yn Lloegr.

Yn ôl adroddiad annibynnol gan arbenigwyr ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na sigaréts tybaco.

Mae'r adolygiad yn awgrymu y gallai e-sigaréts fod 95% yn llai niweidiol na sigaréts arferol.

Yr awgrym hefyd yw nad oes tystiolaeth bod e-sigaréts yn ysgogi plant i ysmygu.

Amddiffyn plant

Mae casgliadau'r adroddiad yn mynd yn groes i rai agweddau o farn Iechyd Cyhoedd Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn y mater.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyflwyno deddfwriaeth cyn bo hir ynglŷn â gwahardd e sigaréts o adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl Mr Drakeford mae'r gwaharddiad, a allai gael ei gyflwyno yng Nghymru yn 2017, "yn fater o gydbwysedd" ac mae'n fodd i amddiffyn rhai plant rhag bod yn gaeth i nicotin.

Byddai gwaharddiad, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn golygu na fyddai ysmygu yn cael ei normaleiddio eto yn dilyn llwyddiant y gwaharddiad cyffredinol ar ysmygu.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad gan ddweud ei fod yn "adolygiad defnyddiol o ddiogelwch e sigaréts a'u rôl mewn atal ysmygu".

"Rydym yn bryderus y gallai e-sigaréts normaleiddio ysmygu yn enwedig i genhedlaeth sydd wedi cael eu magu i raddau helaeth mewn cymdeithas di-fwg."

"Mae Sefydliad Iechyd y Byd a chyrff rhyngwladol eraill wedi galw am reoli'r defnydd o e-sigaréts ac mae 40 o wledydd wedi cymryd camau tebyg i gyfyngu eu defnydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn "cydnabod potential e-sigaréts i leihau'r niwed mewn cyswllt a 'smygu tybaco".

"Rydym yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y drefn lle mae e sigaréts yn cael eu caniatáu yn yr un ffordd a thybaco, sydd yn golygu y gall e-sigaréts fod yn ddewis arall i 'smygwyr."