Gwrthdrawiad Gwynedd: Cludo un i'r ysbyty mewn hofrennydd

  • Cyhoeddwyd

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yng Ngwynedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Audi A3 arian, MG ZR melyn a Subaru gwyn ar yr A493 rhwng Tywyn a Bryncrug am tua 20:40 nos Fawrth, 18 Awst.

Cafodd un person oedd yn teithio yn yr Audi ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Abertawe gydag anafiadau difrifol.

Cafodd person arall oedd yn teithio yn yr Audi ei gludo i ysbyty yn Nolgellau gyda man anafiadau, ac fe gafodd gyrrwr y Subaru ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gyda man anafiadau.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru bod rhaid torri person yn rhydd o un o'r cerbydau.

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth wedi 'r gwrthdrawiad, ac yn gofyn i unrhyw un welodd un o'r cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.