50 yn colli swyddi mewn cwmni peirianneg

  • Cyhoeddwyd
Universal Engineering

Mae 50 o bobl wedi colli eu swyddi wrth i gwmni peirianneg yn ne Cymru fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Fe wnaeth Universal Engineering agor ffatri newydd yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf y llynedd, ac mae ganddyn nhw hefyd safle yn Weymouth, Dorset.

Yn ôl y gweinyddwyr, mae 75 o weithwyr ar y safleoedd yn cadw eu swyddi wrth iddyn nhw geisio cynnal rhai rhannau o'r cwmni.

Llai o alw yn y sectorau olew a nwy sy'n cael y bai.

Cafodd gweithwyr wybod eu bod yn colli eu swyddi ddydd Mawrth, yn dilyn rhybudd yr wythnos diwethaf bod 124 o swyddi dan fygythiad, gan gynnwys 81 yn Llantrisant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y newyddion yn "siomedig iawn".

Dywedodd y gweinyddwyr, Milstead Langdon: "Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda rhai sydd â diddordeb mewn prynu rhannau o'r busnes ac mae nifer o gwsmeriaid wedi bod yn gefnogol iawn wrth gynorthwyo'r cwmni yn y cyfnod anodd yma."

Roedd gweinidogion wedi rhoi £600,000 fel cam cyntaf o £2 miliwn o gefnogaeth i'r safle yn Llantrisant, gyda'r gobaith o greu swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddan nhw'n gweithio gyda'r cwmni i ddod o hyd i brynwr i'r safle a swyddi newydd i'r gweithwyr.