Marwolaeth babi Penygroes: Arestio dau o bobl

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae'r heddlu wedi arestio dau o bobl ar amheuaeth o ymosod wedi i fabi wythnosau oed farw mewn amgylchiadau "anesboniadwy" ym Mhenygroes, Gwynedd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn ardal Trem yr Wyddfa yn ystod oriau mân y bore, ddydd Llun 17 Awst, yn dilyn adroddiadau fod y babi wedi marw.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans am 04:42, ac fe gafodd y babi ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, lle bu farw.

Cafodd post mortem ei gynnal yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ddydd Mawrth, ac mae swyddfa'r crwner wedi cael gwybod.

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un "anesboniadwy" ar hyn o bryd.