Marwolaeth babi Penygroes: Ymchwiliad yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu yn parhau i holi dau o bobl wedi i fabi wythnosau oed, farw mewn amgylchiadau "anesboniadwy" ym Mhenygroes, Gwynedd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn ardal Trem yr Wyddfa yn ystod oriau man y bore, ddydd Llun 17 Awst, yn dilyn adroddiadau fod y babi wedi marw.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans am 04:42, ac fe gafodd y babi ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, lle bu farw.

Mae post mortem wedi ei gynnal ac mae swyddfa'r crwner wedi cael gwybod.

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un "anesboniadwy" ar hyn o bryd.