Canlyniadau TGAU: 66.6% yn cael graddau A*-C
- Cyhoeddwyd

Mae canran y disgyblion yng Nghymru wnaeth ennill gradd A*-C wedi aros yn ei unfan ers y llynedd, gyda chwymp bach yn y niferoedd gafodd A ac A*.
Fe wnaeth 66.6% o ddisgyblion Cymru ennill A*-C eleni, o'i gymharu â 69% mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae'r nifer lwyddodd i ennill gradd A* ac A wedi disgyn fymryn o 19.4% y llynedd i 19.2% eleni.
Mae hynny'n cymharu â 21.2% ar draws weddill y DU.
Cwymp mathemateg
Mae yna gwymp arall wedi bod yng nghanlyniadau disgyblion safodd arholiadau mathemateg yn yr haf. Eleni, dim ond 47.5% lwyddodd i ennill gradd A*-C o'i gymharu â 50.6% y llynedd a 52.8% yn 2013.
Ond, fe wnaeth llawer o ddisgyblion yng Nghymru wneud eu harholiadau mathemateg yn gynharach yn y flwyddyn.
Pan mae'r canlyniadau yna, sy'n tueddu i fod yn uwch, yn cael eu hystyried, mae disgwyl i'r ffigwr godi. Ni fydd y canlyniadau yna yn cael eu rhyddhau tan yr hydref.
Y llynedd roedd pryder am gymhwyster TGAU Saesneg newydd i ddisgyblion Cymru, yn dilyn cwymp yn nifer y pant oedd yn cael graddau da.
Mae'r canlyniadau eleni yn awgrymu bod unrhyw broblemau wedi eu datrys, gyda 59.7% o ddisgyblion yn cael A*-C, cynnydd o'r 58% gafodd hynny'r llynedd.
Iaith Gymraeg
- Iaith gyntaf: cafodd 73.9% radd A*-C yn 2015
- Yn 2014, 72.7% gafodd y graddau hynny.
- Ail iaith: cafodd 79.4% radd A*-C yn 2015
- Yn 2014, 77.7% gafodd y graddau hynny.
Mae canlyniadau'r gwyddorau wedi aros yn weddol sefydlog o ran graddau A*- C, er bod cynnydd wedi bod yn y graddau A* ac A mewn Gwyddoniaeth, yn ogystal â Bioleg, Cemeg a Ffiseg fel pynciau unigol.
Golygai bod Cymru yn parhau ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU, a nifer o ranbarthau cymharol yn Lloegr.
Mae sgôr cyfartalog Cymru o 66.6% o ran graddau A*-C yn well na ond dau o ranbarthau Lloegr: Sir Efrog (65.3%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (65.9%).
Ond mae'r gyfradd sy'n cael A* ac A - 19.2% - yn uwch na phedair o ranbarthau Lloegr.
'Hynod o falch'
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis bod y canlyniadau yn dangos "perfformiad cryf arall".
"Mae hyn yn deillio o waith caled ac ymdrech barhaus gan ein myfyrwyr a'n hathrawon, ac rwy'n llongyfarch pawb o waelod calon, ar y llwyddiant hwn.
"Rwy'n hynod o falch ein bod wedi gweld perfformiad mor gryf yn y pynciau allweddol gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth."
Er iddi longyfarch disgyblion, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns, bod angen i weinidogion "dderbyn eu methiannau ac ystyried eu camgymeriadau".
Dywedodd: "Yn anffodus mae canlyniadau Cymru yn parhau y tu ôl i Loegr. Mewn gwirionedd mae'r bwlch wedi tyfu.
"Mae hynny er gwaethaf addewidion y Prif Weinidog i wella perfformiad a herio - a phasio - canlyniadau Lloegr."
Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, bod y canlyniadau yn ergyd i'r llywodraeth, wnaeth ddarogan y byddai'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn lleihau.
Dywedodd: "Yn amlwg nid dyna sydd wedi digwydd heddiw, ac er fy mod yn llongyfarch disgyblion ar eu llwyddiant a gwaith caled, y ffaith yw bod Cymru wedi disgyn y tu ôl i Loegr ers datganoli o ran perfformiad addysgol."
Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, y "ffaith siomedig i ddisgyblion, rhieni ac athrawon yw bod rhannau eraill y DG yn parhau i berfformio'n well".
Ychwanegodd: "Mae'n debyg y bydd y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn fwy na'r hyn mae Gweinidog Addysg Llafur wedi'n harwain i gredu yn sgil newidiadau yn y system yn Lloegr.
"Mae diwylliant o hunanfoddhad wedi bodoli ymhlith un Gweinidog Llafur ar ôl y llall pan ddaw'n fater o godi safonau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014