Coliseum: Cais arall i ddymchwel
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i ddymchwel sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog wedi cael eu hail-gyflwyno i Gyngor Gwynedd.
Pan wnaeth cwmni Development UK Northern Ltd gyflwyno'r cais gwreiddiol ym mis Tachwedd 2014, fe gafodd ei atal oherwydd pryderon bod ystlumod yn byw ar y safle.
Cyhoeddodd Cyngor Gwynedd ar y pryd bod eu Huned Bioamrywiaeth wedi bod ar ymweliad â'r safle, a'u bod o'r farn bod angen cynnal arolwg llawn.
Mae'r arolwg yna bellach wedi ei gwblhau, a chredir nad oes tystiolaeth o ystlumod yn yr adeilad. Bydd cais o'r newydd gan y cwmni datblygu felly'n cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod ar 7 Medi.
Mae grŵp gafodd ei sefydlu i geisio achub y sinema eiconig yn siomedig, ond nid wedi'u synnu gan y newyddion.
Dywedodd cadeirydd Cyfeillion y Coliseum: "Roedd y siom fawr i ni fisoedd yn ôl pan gafodd y peth ei drafod gynta'.
"Jyst adeilad ydi o iddyn nhw - dydyn nhw ddim yn gweld pwysigrwydd yr adeilad o safbwynt yr hanes.
"Cyn bo hir mae'n siŵr y bydd yna fflatiau afiach yn ei le fo mae'n siŵr, a darn enfawr o hanes Porthmadog wedi mynd am byth er mwyn pres."
Dim rhestru
Roedd y grŵp wedi gobeithio y byddai CADW - corff henebion Llywodraeth Cymru - yn rhestru'r adeilad 'Art Deco', ac felly'n ei warchod. Dywedodd llefarydd ar y pryd nad oedd yr adeilad yn cyrraedd y meini prawf i gael statws rhestredig.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ddydd Iau:
"Derbyniodd Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd rybudd dymchwel gan gwmni Development UK Northern Ltd ar 14 Hydref 2014 o'u bwriad i ddymchwel adeilad sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog.
"Ar y pryd, fe wnaeth Uned Bioamrywiaeth y Cyngor gais fod angen cynnal arolwg ystlumod i ganfod os oedd ystlumod yn y safle. Mae arolwg bellach wedi ei gynnal a bydd y mater yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor ar 7 Medi am benderfyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2014