Ymgyrch i gadw pont ar agor yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae deiseb i gadw pont dros aber yng Ngwynedd ar agor i gerddwyr wedi denu dros 20,600 o lofnodion.
Mae Cyngor Gwyned yn talu £30,800 y flwyddyn tuag at gostau Network Rail i gynnal a chadw pont Bermo.
Bu'r bont yn cludo pobl a threnau dros y Mawddach am 148 o flynyddoedd.
Ond mae torri nôl ar gyllido'r gwaith cynnal a chadw yn un o'r opsiynau gerbron cyngor Gwynedd, sy'n ceisio gwneud arbedion o £9m y flwyddyn nesaf.
Byddai cau'r bont i gerddwyr yn golygu taith ychwanegol o 16 o filltiroedd.
"Mae'r bont yma yn gyswllt pwysig dros aber Mawddach, ac mae'n cynnig golygfeydd hyfryd o'r bae a'r mynyddoedd," meddai Amy Martin, un o'r ymgyrchwyr.
Hyd at 2013 roedd toll o 90c yn cael ei godi ar gyfer cynnal a chadw'r bont restredig Gradd II.
Mae'r bont yn rhan o lwybr yr arfordir sy'n ymestyn 870 o filltiroedd o lannau Dyfrdwy i dde ddwyrain Cymru.
Mae cyngor Gwynedd yn ystyried dros 100 o opsiynau ar gyfer arbed arian. Bydd y penderfyniadau terfynol ynglŷn â thoriadau yn cael eu gwneud yn yr hydref.