Adroddiad Irac: Oedi yn 'warth'
- Cyhoeddwyd

Mae'r oedi cyn cyhoeddi adroddiad i ryfel Irac wedi cael ei ddisgrifio fel "gwarth" gan gyn Dwrnai Cyffredinol Tony Blair, yr Arglwydd Morris o Aberafan.
Dywedodd yr Arglwydd Morris fod teuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn y rhyfel am gau pen y mwdwl ar eu dioddefaint ond roeddynt yn gorfod dioddef "oedi truenus".
Galwodd ar y Prif Weinidog David Cameron i roi pleidlais i'r Senedd i orfodi amserlen er mwyn cyhoeddi Adroddiad Chilcot ar y rhyfel yn 2003.
Dechreuodd Syr John Chilcot ei ymchwiliad yn 2009.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymchwiliad eu bod yn deall yr angen i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn gynted a phosib, ac y byddai'r gwaith yn parhau drwy'r haf.
'Gwarth'
Roedd Arglwydd Morris yn brif swyddog cyfreithiol Mr Blair rhwng 1997 a 1999.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore dydd Gwener, dywedodd yr Arglwydd Morris: "Mae'n sefyllfa dwi ddim wedi cael profiad ohono erioed o'r blaen. Mae unrhyw ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei sefydlu achos bod pryder cyffredinol a'r bwriad ydi, a'r gobeithion, y bydd yr adroddiad yn dod yn weddol gyflym.
"Rwyf i wedi sefydlu sawl ymchwiliad cyhoeddus fy hunan fel ysgrifennydd gwladol, fel gweinidog yn y cabinet, fel twrnai cyffredinol, ac maen nhw i gyd mewn amser cymhedrol - ac mae hwn yn hollol anghyffredin. Dwi ddim yn deall beth sy'n digwydd."
Ychwanegodd yr Arglwydd Morris: "Maen nhw wedi gwrando ar dystiolaeth rhyw bedair neu bum mlynedd yn ôl. Pan aeth e [Syr John Chilcot] o flaen Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin, pallodd e roi unrhyw ddyddiad cyhoeddi.
"Mae e methu rhoi dyddiad i'r Prif Weinidog. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu ato fwy nag unwaith dwi'n credu, yn dweud ei fod wedi colli amynedd hefo'r pwyllgor.
"Os yw'r Prif Weinidog yn dweud hynny, a'r Canghellor wedi dweud hynny ar lawr y Tŷ, y ddau wedi colli amynedd, wel am faint ydyn ni'n mynd ymlaen? Ydyn ni'n mynd i gael y sgwrs yma mewn blwyddyn ar yr un telerau, yr un amodau, yr un drafodaeth? Neu oes rhywun am ddod a'r mater i ben?"
Dywedodd yr Arglwydd Morris y dylai Mr Cameron orchymyn ysgrifennydd y cabinet Syr Jeremy Heywood i adrodd i'r Senedd ar ddatblygiad yr ymchwiliad.
Dywedodd y dylai Aelodau Seneddol ac Arglwyddi gael pleidlais ar amserlen i gyhoeddi'r adroddiad.
'Deall poen'
Dywedodd llefarydd ar ran ymchwiliad Irac: "Mae Syr John a'i gyd-weithwyr yn deall poen teuluoedd y rhai fu farw yn y gwrthdaro. Maen nhw'n cymryd y cyfrifoldeb y cawson nhw fel ymchwiliad annibynnol o ddifrif, ac yn deall yr angen i'r llywodraeth, y senedd a'r cyhoedd weld yr adroddiad cyn gynted a phosib.
"Mae Syr John a'i gyd-weithwyr wedi gweithio, ac fe fyddan nhw'n parhau i weithio, drwy gydol yr haf, gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth yr ymchwiliad."
Ychwanegodd y byddai'r amserlen i gwblhau'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ôl i'r rhai sydd dan sylw gael cyfle i ymateb.