Angladd 'gwir ryfelwr Cymreig'
- Cyhoeddwyd
Mae angladd milwr o'r gogledd fu farw o'i anafiadau wrth ymladd yn Afghanistan dair blynedd yn ôl wedi ei gynnal.
Cafodd yr Is-Gapten Gorporal Michael Campbell, 32 oed, o Fae Colwyn ei saethu tra ar batrôl gyda Trydydd Bataliwn y Gwarchodlu Cymreig.
Bu farw yn Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham fis diwethaf.
Cafodd ei ddisgrifio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fel "gwir ryfelwr Cymreig". Bu ei angladd yn cael ei gynnal yn eglwys St Pauls, Bae Colwyn.
Fe wnaeth yr Is-Gapten Gyrnol Nigel Crewe-Read o Drydydd Bataliwn y Gwarchodlu Cymreig dalu teyrnged i Mr Campbell cyn y gwasanaeth.
Dywedodd: "Roedd proffesiynoldeb yr Is-Gapten Gorporal Michael Campbell wedi creu argraff ar bawb yn nheulu'r Gwarchodlu Cymreig.
"Mae teulu'r Gwarchodlu Cymreig wedi colli ffrind."