Apelio ar fand i geisio achub 'Stiwt Cwmaman

  • Cyhoeddwyd
Cwmaman Institute - photo by JaggeryFfynhonnell y llun, Jaggery
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y Stiwt ei godi diolch i gefnogaeth glowyr lleol

Mae band y Sterophonics wedi cael cais i geisio achub un o'r llwyfannau wnaeth helpu lansio'r grŵp.

Dywed Ymddiriedolwyr y 'Stiwt yng Cwmaman bod angen o leiaf £1 miliwn er mwy achub y ganolfan.

Cafodd yr adeilad ei godi yn 1892 gan y gymuned lofaol leol, ac yn 2001 fe wnaeth y safle dderbyn £3.8 miliwn o arian loteri er mwyn ei adnewyddu.

Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth John Oliver eu bod wedi gorfod rhybuddio bandiau sy'n defnyddio'r ganolfan fod yna berygl y bydd y lle yn cau erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae wedi bod yn galed ers nifer o flynyddoedd, ac rydym wedi llwyddo i gadw'r lle ar agor yn bennaf oherwydd gwirfoddolwyr," meddai.

"Rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth yn newid - rydym wedi sgwennu i'r Sterophonics ond heb glywed yn ôl eto," meddai.

Cafodd y Sterophonics eu sefydlu yn y 1990au yng Nghwmaman gan Kelly Jones, Richard Joens a'r diweddar Stuart Cable.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol