Llofruddiaeth: Dyn wedi teithio i Ogledd Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
ellis ferryFfynhonnell y llun, Heddlu de Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Fe welwyd David Ellis ar gamera cylch cyfyng yn mynd ar long fferi

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Alec Warburton o Abertawe yn dweud fod y dyn y maen nhw'n chwilio amdano mewn cysylltiad â'r farwolaeth, wedi teithio i Ogledd Iwerddon.

Nid yw Mr Warburton wedi cael ei weld ers ddydd Gwener 31 Gorffennaf.

Mae ditectifs yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gar gwyrdd tywyll Peugeot 205 oedd yn perthyn i Mr Warburton ym mhorthladd Penbedw.

Mae gan yr heddlu luniau CCTV o David Ellis, 40 oed, yn mynd ar long Stena Line ym Mhenbedw am 22:30 ddydd Mercher, 5 Awst.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley: "Efallai fod ganddo ffrindiau yn Iwerddon ac efallai bydd rhywun yno wedi cynnig llety iddo."

Mae'r Heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth gan bobl yn Nolwyddelan, a allai fod wedi gweld y car Peugeout neu David Ellis am 20:25 nos Sadwrn 1 Awst, neu ym Metws y Coed am tua hanner nos.

Ffynhonnell y llun, South wales police
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda thenant Mr Warburton, David Craig Ellis