Ymddiheuriad Llafur wedi gwaharddiad i aelod
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Mr Grout gwyno am y sefyllfa ar ei gyfrif Twitter
Mae academydd o Gymru gafodd ei wahardd rhag ymuno a'r blaid Lafur a phleidleisio am arweinydd newydd wedi derbyn ymddiheuriad gan y blaid.
Roedd Vic Grout, athro mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, yn gynghorydd Llafur yn Plymouth cyn iddo adael y blaid yn y 1990au. Penderfynodd ymuno unwaith eto yn ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Roedd hwn yn gamgymeriad gweinyddol."
Yn ymateb i'r ymddiheuriad, dywedodd Mr Grout, sy'n cefnogi Jeremy Corbyn, ei fod yn fodlon derbyn yr esboniad "ar yr wyneb".