Ymgynghoriad gwasanaethau mamolaeth y gogledd yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Bydd ymgynghoriad ar gynllun all olygu bod gwasanaethau mamolaeth yn cael eu tynnu o ysbyty yng ngogledd Cymru yn dechrau ddydd Llun.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystyried cynlluniau i leihau gwasanaethau yn un o dri ysbyty'r ardal - Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cynllun gwreiddiol y bwrdd oedd israddio'r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd dros dro, ond fe wnaeth y penderfyniad gythruddo nifer yn lleol ac roedd rhaid i'r bwrdd ildio.
Yn dilyn y penderfyniad, fe wnaeth y bwrdd gytuno i ymgynghori gyda'r cyhoedd.
Mae rhai pobl leol yn flin am y posibilrwydd o golli gwasanaethau mamolaeth, a'r ffaith y bydd rhai yn gorfod teithio ymhellach i gael gofal.
Ond mae'r bwrdd iechyd yn dweud ei bod yn cael trafferth llenwi swyddi yn yr adrannau, ac felly yn methu sicrhau diogelwch mamau a babanod.
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys nifer o gyfarfodydd cyhoeddus i wrando ar farn pobl leol.
Bydd y penderfyniad terfynol ar israddio gwasanaethau, neu gadw'r drefn bresennol, yn cael ei wneud ym mis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2015