Cyhuddo cyn chwaraewr rygbi o ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd

Bydd Mils Muliaina yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 7 Medi
Mae cyn chwaraewr y Crysau Duon wedi ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o ymosodiad rhyw.
Fe wnaeth Mils Muliaina, 35, ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ynglŷn â throsedd rhyw honedig ar 7 Mawrth.
Bydd Mr Muliaina yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 7 Medi.
Fe wnaeth o ymddeol o chwarae rygbi rhyngwladol yn 2011 ar ôl ennill 100 o gapiau i Seland Newydd.