Cofio brwydr Dyffryn Ceiriog ar ôl 850 o flynyddoedd
- Cyhoeddwyd

Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio yn Nyffryn Ceiriog i nodi 850 mlynedd ers cyfres o frwydrau rhwng lluoedd Cymru a Lloegr.
Fe ddigwyddodd y frwydr enwocaf, Brwydr Crogen, yn 1165 ger Y Waun, pan wnaeth y Cymry drechu dynion Harri II.
Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio ger safle brwydr arall ym Mhont Rhyd y Gad ger Tre Ceiriog ddydd Sadwrn.
Mae'r grŵp ail-greu, Cwmwd Ial, yn creu gwersyll i nodi'r dadorchuddio.
Dechreuodd y brwydro yn 1165 pan ddaeth Harri II a byddin enfawr i Groesoswallt, gyda byddin y Cymry yn aros amdanynt ger Corwen yn Sir Ddinbych.
Pan fethodd trafodaethau rhwng y ddwy ochr, symudodd byddin Harri i fyny drwy Ddyffryn Ceiriog.
Er iddyn nhw fod yn fyddin llawer llai, llwyddodd y Cymry i ymosod ar fyddin Harri, gan ladd nifer fawr o filwyr.
Yn dilyn Brwydr Crogen, roedd rhaid i Harri dynnu'n ôl o Gymru, gan symud ei fyddin i ddinas Caer.