Ymgyrch rhoi organau yn wynebu 'her enfawr'
- Cyhoeddwyd

Mae codi ymwybyddiaeth o newidiadau i reolau rhoi organau yn "her enfawr", yn ôl arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus.
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi annog teuluoedd i drafod eu barn ar roi organau, 100 diwrnod cyn i Gymru fabwysiadu system o gymryd bod caniatâd.
Mae Bethan Lewis o gwmni Brighter Comms yng Nghaerdydd wedi croesawu hysbysebion teledu fel rhywbeth angenrheidiol i gael pobl i feddwl am y pwnc.
"Dy'ch chi'n dibynnu ar y cyhoedd i ymateb ar adeg, efallai, na fydd y neges ymddangos yn berthnasol iddyn nhw," meddai.
Yn ogystal â hysbysebion teledu, mae taith wedi bod o amgylch archfarchnadoedd Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r system newydd, sy'n dechrau ar 1 Rhagfyr.
Mae'r system newydd yn gwahodd pobl i gofrestru eu dymuniad i roi eu horganau ai peidio, ac mae'r system yn cymryd bod caniatâd os nad yw pobl yn cofrestru i beidio.
'Pwnc sensitif'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 39,500 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru eu dymuniad i beidio rhoi eu horganau, tra bod 1,062,000 wedi cofrestru i roi organau ar hyn o bryd.
Dywedodd Ms Lewis: "Mae ymchwil yn dangos ein bod angen gweld hysbysebion saith gwaith cyn iddo daro deuddeg.
"Felly mae'n glir bod angen i'r ymgyrch barhau nes y newid, ar draws cymaint o sianeli sydd bosib."
Dywedodd Mike Stephens, llawfeddyg trawsblaniad ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd: "Dy'n ni eisiau annog teuluoedd i gael y sgwrs yma cyn iddyn nhw farw fel y gall teuluoedd fod yn siŵr o ddymuniad eu perthnasau."
Ychwanegodd y byddai teuluoedd yn parhau i gael eu holi am roi organau yn dilyn marwolaethau, ond dywedodd y byddai defnyddio'r gofrestr yn gwneud "pwnc sensitif yn haws i'w drafod".