Achub dynes oedd yn sownd mewn mwd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi ei hachub ar ôl mynd yn sownd mewn mwd ar lannau afon Wysg yng Nghasnewydd.
Roedd rhaid i achubwyr ddefnyddio rhaffau ac ysgolion i helpu'r ddynes.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 05:00 fore Sadwrn.
Nid oes mwy o wybodaeth am gyflwr y ddynes.