Pwynt i Abertawe oddi cartref yn Sunderland

  • Cyhoeddwyd
Jermain DefoeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Rhwydodd Jermain Defoe yn yr ail hanner i sicrhau pwynt yn erbyn Abertawe

Doedd Abertawe methu manteisio ar berfformiad da yn hanner cyntaf eu gêm yn erbyn Sunderland, gyda'r timau'n rhannu pwynt yr un brynhawn Sadwrn.

Yr Elyrch ddechreuodd orau gan greu nifer o gyfleoedd, ond roedd rhaid aros 45 munud cyn i Bafetimbi Gomis dderbyn pêl gan Kyle Naughton, a saethu i gornel y rhwyd.

Ond daeth Sunderland allan yn gryfach wedi'r egwyl, a'r ymosodwr Jermain Defoe sicrhaodd pwynt cyntaf ei dîm y tymor hwn gan saethu heibio Fabianski i'r gôl.

Gall y tîm cartref wedi cael cic o'r smotyn pan darodd ergyd Jack Rodwell yn erbyn braich Ashley Williams yn yr ail hanner.

Cafodd Abertawe gyfleoedd hefyd ac roedd rhaid i Costel Pantilimon arbed peniad Gomis yn hwyr yn y gêm i sicrhau'r pwynt.