Casnewydd 2-3 Leyton Orient

Newport Image copyright Huw Evans picture agency

Colli wnaeth Casnewydd er iddyn nhw frwydro yn ôl o ddwy gôl i lawr yn erbyn Leyton Orient.

Aeth y tîm cartref ar ei hôl hi yn gynnar yn y gêm, wrth i Paul McCallum benio i'r rhwyd o groesiad Dean Cox cyn i Jay Simpson adio ail o fewn saith munud o chwarae.

Roedd McCallum bron ac adio gôl arall cyn i Scott Bowden rwydo i roi gobaith i Gasnewydd.

Sgoriodd Mark Byrne gydag ergyd wych funud yn ddiweddarach i ddod a Chasnewydd yn gyfartal, ond doedd hynny ddim digon wrth i Cox rwydo eto i gipio'r pwyntiau.