Sir Gaerhirfryn yn gosod targed i Forgannwg

Will Bragg Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Collodd batiwr Morgannwg, Will Bragg ei wiced am 27

Mae Morgannwg 414 o rediadau y tu ôl i Sir Gaerhirfryn ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o chwarae yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Roedd Sir Gaerhirfryn yn dechrau'r diwrnod ar 161-3, gyda Karl Brown ar 80 heb fod allan.

Cyrhaeddodd 132 cyn cael ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio David Lloyd.

Ond fe wnaeth y tîm cartref barhau i fatio'n dda, wrth i Steven Croft, 67, Alex Davies, 95, a James Faulkner, 63, gyrraedd sgoriau uchel.

Sgoriodd Sir Gaerhirfryn 462 ar ddiwedd eu batiad.

Craig Meschede oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg, gan gymryd pedair wiced am 101 o rediadau.

Ni chafodd Morgannwg y dechrau gorau i'w batiad, wrth i Will Bragg golli ei wiced i Arron Lilley am 27.

Bydd Morgannwg yn dechrau'r trydydd diwrnod ar 48 am 1.

Straeon perthnasol