Rhybudd tywydd am law trwm ddydd Sul
- Published
Mae rhybudd tywydd am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau o dde a chanolbarth Cymru yn dilyn stormydd yn y gogledd dros nos.
Mae rhybuddion hefyd i yrwyr fod yn ofalus oherwydd amodau gyrru peryglus, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr M4 ger Casnewydd.
Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru bod y cerbydau wedi llithro oherwydd bod llawer o ddŵr ar y ffordd.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobl i "fod yn wyliadwrus", gyda rhagolygon o gawodydd trwm mewn mannau ddydd Sul.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Swyddfa Dywydd.