Cost ceisiadau yswiriant i Gyngor Môn yn £800,000
- Cyhoeddwyd

Mae tyllau yn y ffordd yn cael rhan o'r baiam y ceisiadau yswiriant
Mae un cyngor yng ngogledd Cymru wedi talu bron £800,000 mewn taliadau yswiriant dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth Cyngor Môn dalu £793,234 rhwng 2010/11 a 2014/15 ar gyfanswm o 311 o geisiadau yswiriant.
Roedd y gwariant uchaf yn 2010/11, £354,507, ond roedd gostyngiad erbyn 2014/15, £32,805.
Mae 100 o geisiadau sydd heb eu datrys, ac mae'r cyngor wedi clustnodi £1.2m i dalu unrhyw gostau posib.
Mae'r cyngor yn dweud bod cynnydd "sylweddol" mewn ceisiadau cyhoeddus ers 2012.
"Mae'r cynnydd o ganlyniad i geisiadau yn ymwneud a'r priffyrdd, fel difrod i gerbydau oherwydd tyllau yn y ffyrdd," meddai llefarydd.
Rhwng 2010 a 2015, fe wnaeth y cyngor ddatrys 563 o geisiadau heb unrhyw gost.