Gorymdaith i gofio canrif o swyddogion benywaidd
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o swyddogion benywaidd o heddluoedd ar draws y byd wedi gorymdeithio drwy Gaerdydd i ddathlu 100 o flynyddoedd ers i'r swyddogion benywaidd cyntaf ymuno a'r llu ym Mhrydain.
Roedd yr orymdaith drwy'r ddinas yn rhan o gynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Heddlu Benywaidd, sydd hefyd yn dathlu ei chanmlwyddiant.
Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Heddlu De Cymru lansio apêl i geisio darganfod teulu un o'r swyddogion benywaidd cyntaf, WPC1 Elsie Joan Baldwin.
Roedd ei theulu yn y digwyddiad ddydd Sul.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Nikki Holland, bod y gynhadledd yn cydnabod y "cyfraniad enfawr y mae menywod yn ei wneud tuag at heddlua" ac yn gyfle i drafod materion lleol a rhyngwladol.
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Ffynhonnell y llun, Wales News Service