Achub dwsinau o dwyni tywod ger Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
RNLIFfynhonnell y llun, RNLI

Mae bron i 60 o bobl wedi eu helpu i'r lan ar ôl cael eu dal ar dwyni tywod mewn digwyddiadau ar wahân oddi ar arfordir Y Rhyl.

Cafodd criwiau Gwylwyr y Glannau eu galw i helpu 30 o oedolion a phlant am tua 12:00 ddydd Sul.

Tua 45 munud yn ddiweddarach, cafodd dau oedolyn a phlentyn eu tywys i'r lan o safle agos, cyn i 25 arall gael eu helpu yn hwyrach ymlaen.

Dywedodd Martin Jones o'r RNLI ei fod yn "awr brysur" i'r criw.