Beiciwr yn y ffordd: Dyn mewn cyflwr difrifol

  • Cyhoeddwyd
TredelerchFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y dyn ei ddarganfod yn ardal Tredelerch nos Sadwrn

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn gorwedd ar ganol ffordd yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiad bod dyn yn gorwedd ger beic ar Heol Casnewydd yn ardal Tredelerch am 22:30 nos Sadwrn 22 Awst.

Cafodd y dyn 44 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un welodd ddyn yn beicio ar hyd Heol Casnewydd o gwmpas yr amser yna, neu sy'n gwybod sut y daeth y dyn i fod yn y ffordd, i gysylltu gyda nhw ar 101.