'Diffyg ffermydd cyngor yn bryder i'r diwydiant'
- Cyhoeddwyd

Mae undebau amaeth yn pryderu nad oes digon o gyfleoedd i bobl ifanc ddechrau ym myd ffermio oherwydd diffyg ffermydd cyngor ar gael i'w rhentu.
Mae dau o undebau ffermio Cymru wedi mynegi pryder ar y diffyg ffermydd cyngor ar gytundebau tymor byr, gan fod llawer ohonynt ar gytundebau bywyd neu ymddeoliad.
Dywedodd un cwpl ifanc wrth BBC Radio Cymru mai prin iawn oedd eu cyfleoedd i rentu fferm yng Ngheredigion ers iddyn nhw wneud cais dwy flynedd yn ôl.
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae dau o'r 14 o unedau sydd ganddyn nhw yn rhai cychwynnol, ac yn y cyfnod economaidd presennol, nid yw prynu mwy o dir yn flaenoriaeth.
Cyfleoedd yn brin
Mae ymchwil gan BBC Radio Cymru yn dangos bod nifer y ffermydd cyngor sydd ar gytundebau byr yn brin yng Nghymru.
Yn ôl undebau ffermio, mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd i ffermwyr ifanc sydd ddim â chefndir ffermio, gamu i mewn i'r diwydiant.
Fe wnaeth Sara Davies a'i gŵr Derfel o Gapel Cynon ger Llandysul wneud cais am fferm ar ôl gweld hysbyseb gan Gyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd: "Buon ni'n anlwcus i beidio cael u lle, a bydde ni'n hoffi os bydde mwy o lefydd i gael i ni gael trio 'to... ond s'dim lot o lefydd, wel bron dim wedi dod ers i'r lle hwn ddod lan.
"S'dim byd, pan ddaeth y fferm hon mas, wedd e'n cael ei hysbysebu yn y papur lleol, ond mae dwy flynedd 'di mynd ers hynny."
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, nid yw cynghorau yn deall maint y broblem.
Dywedodd Anwen Hughes o'r undeb: "Yn anffodus maen nhw i gyd yn meddwl mai problem fach ydi hi, ond o safbwynt rhywun sydd 'ishe dod i mewn i'r diwydiant, mae'n broblem fawr.
"'De ni yn poeni amdano fe, mae 'ishe bod ni'n gallu dod mewn a'r teuluoedd ifanc sy' 'ishe bod yn y diwydiant."
Dim yn flaenoriaeth
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod wedi etifeddu'r 14 o ffermydd gan hen Gyngor Dyfed, a bod y rhan fwyaf wedi eu gosod ar denantiaeth amaethyddol llawn - rhai hirdymor.
Ychwanegodd y llefarydd: "Ystyrir dau o'r daliadau yn unedau cychwynnol, ble mae tenantiaethau busnes fferm 10 mlynedd wedi cael eu rhoi. Mae un o'r rhain wedi ei osod yn ddiweddar, a bydd yr un arall ar gael ar gyfer dyfodiaid newydd i'w rentu yn y flwyddyn newydd.
"Mae angen buddsoddiad i uwchraddio llawer o gyfleusterau'r fferm, gyda'r gost yn llawer mwy na'r incwm sy'n cael ei greu gan yr ystâd.
"Hefyd, yn ystod yr amser heriol yn economaidd sydd ohoni, â'r bwlch sylweddol sydd rhwng gwerthoedd tir amaethyddol a ffioedd rhent sydd wedi eu cyflawni, ni all caffael tir ac eiddo gael ei ystyried yn flaenoriaeth ar hyn o bryd."