Morgannwg mewn trafferth yn Old Trafford

  • Cyhoeddwyd
Glen Chapple
Disgrifiad o’r llun,
Cymrodd Glan Chapple ddwy wiced cyn i'r glaw effeithio ar y chwarae ym Manceinion

Mae Sir Gaerhirfryn wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa gref ar ôl i law effeithio trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Morgannwg.

Roedd Morgannwg wedi dechrau'r diwrnod ar 48 am 1, ond fe gollon nhw wicedi yn gyflym gan gyrraedd 182 am 6 pan ddechreuodd y glaw.

Roedd dwy wiced i James Faulkner a dwy hefyd i Glen Chapple, wrth i fatwyr Morgannwg gael trafferth yn Old Trafford.

Andrew Salter oedd y gorau o fatwyr Morgannwg, gan gyrraedd 45 cyn colli ei wiced i fowlio Simon Kerrigan.

Mae'n golygu y bydd Morgannwg yn dal i fod 280 o rediadau y tu ôl i Sir Gaerhirfryn ar ddiwrnod olaf y gêm ddydd Llun.