Dyn wedi'i ddarganfod ag anafiadau difrifol yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y dyn ei ddarganfod dan bont ar Ffordd y Cwm yn ardal yr Hafod
Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi i ddyn ag anafiadau difrifol gael ei ddarganfod dan bont yn Abertawe.
Fe gafodd y dyn ei ddarganfod ar Ffordd y Cwm yn ardal yr Hafod brynhawn Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 16:45.
Fe gafodd y dyn ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.