Pwll nofio rhestredig yn ailagor ym Mhontypridd

Refurbished Pontypridd lido
Image caption Fe wnaeth y safle agor yn 1927, ond bu rhaid iddo gau yn 1991

Bydd pwll nofio rhestredig Gradd II yn ailagor yn Rhondda Cynon Taf ddydd Llun yn dilyn adnewyddu'r safle.

Bydd tua 450 o bobl yn cael y cyfle i ddefnyddio'r cyfleuster £6.3m ym Mharc Coffa Rhyfel Ynysangharad ym Mhontypridd, cyn iddo agor i'r cyhoeddi ddydd Mawrth.

Un pwll mawr oedd ar y safle gwreiddiol, ond yn dilyn yr adnewyddiad mae tri phwll, a bydd nofio yno am ddim nes diwedd y flwyddyn.

Fe gafodd y cynllun ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Loteri Treftadaeth a'r cyngor.

Fe wnaeth y safle agor yn 1927, ond bu rhaid iddo gau yn 1991.

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd y pwll yn hwb i niferoedd ymwelwyr â'r dref, gan ddenu mwy o fasnach i fusnesau.

Image caption Mae 450 o bobl yn cael mynediad cynnar i'r pwll ddydd Llun
Image caption Bu rhaid i'r pwll gau yn 1991 oherwydd adfeiliad i'r safle