BBC Cymru Fyw

Pobol y Cŵn

Published

Maen nhw'n dweud fod cŵn yn edrych yn debyg i'w perchnogion, felly, a hithau'n wythnos sioe gŵn Crufts, sut gŵn fyddai wedi bod yn berffaith ar gyfer rhai o gymeriadau Pobol y Cwm?

image captionSut allech chi fod wedi cymryd yn erbyn Ieuan Griffiths â'r llygaid mawr ciwt 'na?
image captionBeth mae Beth a'i chi hi wedi gweld?
image captionCwrso defaid fyddai ci Gina wedi ei wneud yn y gyfres?
image captionPa gi arall allai Brandon fod wedi bod berchen arno?
image captionMae Llew yn ddigon hapus gyda'i gi ef
image captionEr, o'n i wastad yn amau bod y Steff 'na yn un cas...
image captionCyfeirgi Gwyddelig (Irish Setter) i Julie efallai
image captionYn sicr, dylai Olwen fod wedi cael pwdl yn y siop
image copyrightAFP
image captionEfallai na fyddai angen i gi Dai Scaffalde fod mor flewog erbyn hyn?

A dyna ddiwedd ein detholiad bach ni. Os fedrwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau eraill, cofiwch gysylltu:

Twitter: @BBCCymruFyw

neu e-bost:

cymrufyw@bbc.co.uk