Cam-drin plant: Dim bai ar staff Heddlu'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae ymchwiliad i oedi gan Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio gwybodaeth am gam-drin plant wedi dod i'r canlyniad nad oes achos i'w ateb i unrhyw aelod o staff.

Fe wnaeth y llu dderbyn gwybodaeth gan heddlu Canada yn 2013-14 am bobl oedd wedi prynu fideos anweddus o blant.

Doedd tri o'r bobl oedd wedi'u henwi yn yr adroddiad ddim wedi cael eu hymchwilio flwyddyn yn ddiweddarach.

Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) mai diffyg yn y system oedd ar fai, yn hytrach na bai un person.

Newidiadau strwythurol

Roedd heddlu Toronto wedi pasio enwau 2,000 o bobl i heddlu'r DU o'i ymchwiliad, Ymgyrch Spade.

Fe gafodd y wybodaeth berthnasol ei yrru i Heddlu'r Gogledd, ond flwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw ddarganfod bod tri pherson ar y rhestr heb gael eu hymchwilio o gwbl.

Heddlu'r Gogledd wnaeth gyfeirio ei hun i CCAH ym mis Hydref 2014, ddechreuodd yr ymchwiliad.

Dywedodd comisiynydd Cymru CCAH, Jan Williams, bod y llu wedi gwneud nifer o newidiadau strwythurol sy'n golygu ei bod yn "annhebygol iawn" y bydd hyn yn digwydd eto.

Yn ymateb i ganlyniadau'r ymchwiliad, fe wnaeth Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard, ganmol staff y llu am sylweddoli ar y methiannau, a'u hadrodd i CCAH.