Dim bwriad newid cyflwynwyr tywydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway, yn cael ei gyflogi gan y Swyddfa Dywydd
Nid oes gan BBC Cymru unrhyw fwriad newid cyflwynwyr y tywydd er bod y Swyddfa Dywydd wedi colli'i chontract gyda'r gorfforaeth.
Mae cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway, yn cael ei gyflogi gan y Swyddfa Dywydd, ond fe gadarnhaodd y BBC ddydd Llun nad yw'n bwriadu newid sut mae'r tywydd yn cael ei gyflwyno.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi darparu'r data tywydd a ddefnyddir gan y BBC ers 1922.
Dywedodd y BBC bod gofyn sicrhau'r gwerth gorau am arian ac y bydd y contract yn cael ei gynnig ar dendr.
Yn ymateb, dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad.
Disgwylir i wasanaeth newydd ddechrau ar ei waith y flwyddyn nesaf.