Sioe awyr y Rhyl i fynd yn ei blaen dros ŵyl y banc

  • Cyhoeddwyd
Rhyl Air ShowFfynhonnell y llun, Eirian Evans/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Un o sioeau awyr blaenorol Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Dinbych wedi cadarnhau y bydd sioe awyr y Rhyl yn cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc, a hynny wedi i'r trefnwyr dderbyn cyngor gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Yn dilyn y drychineb yn sioe awyr Shoreham dros y penwythnos, mae cyfarwyddwr sioe y Rhyl, Mike Wood, yn dweud bod y trefnwyr yn cydymffurfio â'r holl fesurau diogelwch posib, ac mae'n atgoffa pobl bod gwahaniaethau daearyddol mawr rhwng y ddwy ardal.

"Rwy'n deall y bydd pobl yn bryderus am ddiogelwch yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd ddyd Sadwrn, ond hoffwn gadarnhau mai un o'r prif wahaniaethau yw bod y rhan fwyaf o'r sioe yn y Rhyl yn digwydd dros y môr," meddai.

Yn ôl aelod cabinet sir Ddibynch dros ddatblygu cymunedol, y cynghorydd Huw Jones, er bod yr hyn a ddigwyddodd yn Shoreham yn erchyll, "yn dilyn cyngor arbenigol, byddwn yn parhau gyda'r sioe.

"Hoffwn sicrhau pawb mai diogelwch yw ein prof flaenoriaeth, a bydd y penwythnos hwn yn adeiladu ar lwyddiant y gorffennol."