Profiad dyn wedi i gar yrru mewn i'w dŷ yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn o Dorfaen wedi bod yn sôn sut y bu'n rhaid iddo neidio allan o'r ffordd wrth i gar yrru mewn i'w ystafell fyw.
Roedd Stephen Powell, 48, yn gwylio uchafbwyntiau cyfres y Lludw pan darodd y Volvo mewn i ffenestr ei gartre' ar Ffordd Porthmawr yng Nghwmbrân.
Dyw hi ddim yn ymddangos bod gyrrwr y car - Paul Binks, 29, o Newcastle - wedi cael ei anafu yn y gwrthdrawiad ddydd Gwener diwetha'.
Yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn, fe blediodd Binks yn euog i yrru dan ddylanwad alcohol a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis.
Dywedodd gwraig Mr Powell, Sarah Roberts, 42: "Petai o heb allu taflu ei hun allan o'r ffordd, byddai'n sicr wedi marw."
Cafodd y tad i un ei gludo i'r ysbyty gyda phoen cefn, a'r gred yw ei fod wedi rhwygo cyhyrau.
Roedd gan Binks 65 microgram o alcohol ym mhob 100ml o'i anadl - 35microgram yw'r uchafswm cyfreithlon.
Yn ogystal â'r gwaharddiad gyrru, cafodd Binks hefyd orchymyn i dalu £355 mewn dirwyon a chostau.