Corff ar draeth: Ymchwiliad yn parhau
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dyn 61 oed.
Cafodd corff Norman Havard, oedd yn byw yn ardal Aberafan, ei ddarganfod ar draeth Aberafan tua 07:15 fore Gwener, 21 Awst.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy tan i ganlyniadau archwiliad post mortem ddod i law.
Fe welwyd car Vauxhall Zafira Mr Havard - gyda'r rhif V192 JBL - yn cael ei yrru rhwng Princess Margaret Way a Stryd Fictoria am tua 00:50, ac fe gafwyd hyd i'r car yn agos i'r lle y daeth corff Mr Havard i'r fei yn ddiweddarach.
Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un a welodd y car neu Mr Havard rhwng 00:50 a 07:15 ar fore Gwener 21 Awst i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 1500306685.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2015