Gêm gyfartal i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
jacques rudolphFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Morgannwg wedi sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Sir Gaerhirfryn ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Old Trafford, Manceinion.

Fe gollwyd cryn dipyn o chwarae oherwydd glaw yn y dyddiau cyntaf, ond llwyddodd y tîm cartref i sgorio 462 yn eu batiad cyntaf ar ôl galw'n gywir.

Roedd batiad cyntaf Morgannwg yn dipyn o chwalfa.

Gan nad oedd Keiran Bull yn medru batio o gwbl oherwydd anaf, roedd Morgannwg i gyd allan am 213 er mai dim ond naw wiced a gollwyd.

Roedd hynny'n ddigon i Sir Gaerhirfryn orfodi'r ymwelwyr i fatio eto'n syth yn y gobaith o ennill y gêm, a'r dasg i Forgannwg oedd aros wrth y llain am ddiwrnod cyfan ddydd Llun er mwyn achub gêm gyfartal.

Fe lwyddon nhw i wneud hynny gyda'r diolch yn bennaf i Jacques Rudolph (63) a Chris Cooke (41 h.f.a.), ac erbyn 17:20 ddydd Llun fe gytunodd y ddau gapten nad oedd gobaith am ganlyniad cadarnhaol i'r gêm.

Cyfartal oedd y canlyniad felly, gyda Sir Gaerhirfryn yn cipio 11 pwynt bonws a 7 i Forgannwg.

Pencampwriaeth y Siroedd: Sir Gaerhirfryn v. Morgannwg - Canlyniad:

Sir Gaerhirfryn: (batiad cyntaf) - 462

Morgannwg: (batiad cyntaf) - 213

(ail fatiad) - 159 am 3

Gêm gyfartal - Sir Gaerhirfryn 11 pwynt bonws; Morgannwg 7 pwynt bonws.