Beiciwr modur yn marw mewn damwain
- Published
Bu farw beiciwr modur mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ar Ynys Môn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 17:30 yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd ger Llanfairpwll.
Roedd y dyn a fu farw yn teithio tua'r dwyrain gyda dau feiciwr arall.
Yn ôl yr heddlu, bu farw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.