Coma ffug: Cwpl yn cyfadde' gwyrdroi cwrs cyfiawnder
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Abertawe a'i gŵr wedi pledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy esgus nad oedd o'n ddigon iach i sefyll ei brawf am ei fod mewn coma.
Roedd Helen Knight, 33, o Sgeti, a'i gŵr Alan Knight, 48, yn wynebu'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.
Fe blediodd y ddau yn euog mewn gwrandawiad cychwynnol a barodd 10 munud.
Cafodd Alan Knight ei garcharu am bedair blynedd a hanner ym mis Tachwedd ar gyhuddiadau o dwyll a ffugio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Cafodd Helen Knight ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedd Helen Knight wedi esgus bod ei gŵr mewn coma tra'r oedd o'n disgwyl i'w achos llys ddechrau.
Ond cafodd o ei garcharu wedi i'r heddlu weld tystiolaeth ei fod wedi bod ar dripiau siopa ac ar wyliau gyda'i deulu.
Bydd y ddau yn dychwelyd i'r llys ar 8 Medi, pan fydd Alan Knight yn cael ei ddedfrydu a bydd ple Helen Knight yn cael ei ystyried.