Teyrnged i feiciwr modur o Gaergybi
- Cyhoeddwyd

Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Fôn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Craig Andrew Steadman, 28, wedi i'w feic daro yn erbyn cerbyd ger Llanfairpwll tua 17:30 ddydd Llun.
Yn enedigol o Oxton, yng Nghilgwri, roedd wedi symud i fyw i Gaergybi yn 1995, pan yn saith oed.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Parc ac Ysgol Uwchradd Caergybi, cyn mynd i astudio cwrs mewn cyfrifiaduron yng Ngholeg Menai.
Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn beiciau modur a hwylio.
Bu'n beiriannydd gyda'r Awyrlu yn Y Fali, a'n ddiweddar bu'n gweithio ym mecws archfarchnad Tesco yng Nghaergybi.
Bu hefyd yn aelod o griw'r Bad Achub yng Nghaergybi, rhywbeth yr oedd "o a'i deulu i gyd yn hynod falch ohono".
'Caredig a chymwynasgar'
Dywedodd ei fam, Sharon Steadman, ei fod yn "fachgen caredig a chymwynasgar. Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac yn rhoi pobl eraill yn gynta'."
Ychwanegodd ei dad ei fod wedi "rhoi ei fywyd ifanc i helpu achub eraill. Rwyf mor falch ohono."
Yn ôl ei bartner, Tracy, roedd ganddo "galon o aur...fo oedd y dyn neisia', mwya' caredig ac addfwyn i mi erioed gwrdd ag o, a byddwn i wedi dymuno treulio gweddill fy mywyd gyda fo."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu oedd yn teithio i'r dwyrain ar yr A55 ger Llanfairpwll (cyffordd 8) toc wedi 17:30 ddydd Llun i ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod S129152.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2015