Staff bysiau i weithredu oherwydd anghydfod tâl
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i weithwyr bysiau yng Nghaerdydd weithredu yn ddiwydiannol oherwydd anghydfod ynglŷn â thâl.
Mae aelodau o undeb Unite, gan gynnwys gyrwyr, wedi penderfynu gweithredu yn dilyn pleidlais gan yr aelodau, ond nid yw natur y gweithredu na dyddiad wedi ei benderfynu ar hyn o bryd.
Mae rhai aelodau o undeb Unsain wedi derbyn codiad cyflog o 3%, sy'n cynnwys taliadau ers mis Ebrill, gan gynnwys codiad o 2% yn ychwanegol ar gyfer 2016.
Fe ddywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Bysiau Caerdydd, Cynthia Ogbonna: "Rwyf yn siomedig nad yw rhai aelodau o staff yn meddwl fod codiad cyflog o 5% yn ddigonol.
"Rydym yn credu ein bod wedi gwneud cynnig gwych, ac fe dderbyniodd aelodau Unsain y cynnig ym mis Gorffennaf, ond mae Unite yn ceisio rhagor o arian, yn syml nid yw'r arian gennym ni."
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2015
- 20 Chwefror 2014