Dynes oedd ar goll wedi dod i'r fei
- Cyhoeddwyd

Mae Ms Xuereb wedi cael ei darganfod yn ddiogel yn ardal Beddgelert
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i ddynes o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd, aeth ar goll ddydd Mawrth.
Roedd yr heddlu yn bryderus am Maria Charmaine Xuereb, oedd ar goll o'i chartref yn Llanllyfni.
Fe gafodd y ddynes 39 oed ei darganfod yn ardal Beddgelert brynhawn Mercher, wedi i'r heddlu dderbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd.