Cwest i farwolaeth pysgotwr o Forfa Nefyn: Damwain
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth pysgotwr o Ben Llŷn wedi clywed am ddiffygion yn yr offer diogelwch angenrheidiol ar y cwch.
Aeth Gareth Emlyn Jones i drafferthion yn y môr ger Trefor y llynedd, a mis diwethaf daeth adroddiad i'r casgliad fod ei gwch mewn cyflwr gwael.
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain, dywedodd y crwner, Dewi Pritchard Jones, nad dyma'r tro cyntaf iddo orfod delio gyda marwolaeth pysgotwr dan y fath amgylchiadau, ac fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y bydd safonau diogelwch yn gwella ar gychod yn y dyfodol.
Roedd y pysgotwr 36 oed o Forfa Nefyn yn casglu cregyn bylchog ger Nant Gwrtheyrn pan aeth i drafferthion, ac mi gafodd ei ddarganfod yn farw ar ei gwch.
Adroddiad
Gyda'i deulu yno'n gwrando, clywodd y cwest am gynnwys adroddiad gan yr adran sy'n ymchwilio i ddamweiniau morwrol, oedd yn disgrifio cyflwr gwael y cwch 36 troedfedd - y Ronan Orla.
Mi aeth y pysgotwr yn sownd yn y winsh - gerfydd ei ddillad yn ôl pob tebyg - gan fethu a'i stopio na rhyddhau ei hun. Doedd y winsh ddim wedi'i ffitio efo'r offer diogelwch angenrheidiol, sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Er yn bysgotwr profiadol mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y peryglon o bysgotwyr yn gweithio ar eu pen eu hun: "Roedd cyflwr y cwch yn awgrymu mai diffyg arian, yn hytrach na diffyg ymwybyddiaeth o ddiogelwch, oedd wedi ei rwystro rhag cyflogi aelod arall o griw, a chynnal ei gwch yn gywir."