Dyn yn pledio'n euog i losgi Capel Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Fire at Capel AberfanFfynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd diffodwyr eu galw ar 11 Orfennaf

Mae dyn wedi pledio'n euog o gynnau tân bwriadol wnaeth losgi Capel Aberfan yn ulw.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Daniel Brown o Ynysowen yn cael boddhad o weld diffoddwyr yn ymateb i dân.

Fe wnaeth gyfaddef i roi bin ysbwriel ar dân y tu allan i'r capel ar 11 Gorffennaf.

Fe godwyd y capel yn 1876 ac fe gafodd ei ddefnyddio gan ymgymerwyr yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966.

Roedd organ er cof am y drychineb yn cael ei chadw yn yr hen gapel.

Dywedodd y barnwr Richard Twomlow, wrth Brown fod cyfnod hir o garchar yn debygol.

Clywodd y llys fod Brown wedi dweud wrth swyddogion tân iddo roi ei gartref ei hun ar dân pan yn naw oed.

Dywedodd yr erlyniad fod Brown yn cael mwynhad o'r math yma o weithgarwch ac mai ef a alwodd y diffoddwyr.

Bydd yn cael ei ddedfrydu mewn pedair wythnos.

Cafodd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant eu llad yn nhrychineb Aberfan ar 21 Hydref, 1966 wedi i domen lo orchuddio ysgol a thai lleol.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y capel ei losi'n ulw
Ffynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook