Milwr o Gymru yn marw o achosion naturiol

  • Cyhoeddwyd
Gareth JenkinsFfynhonnell y llun, Tony Mottram

Bu farw milwr o ogledd Cymru oedd ar ymarferiad gyda'r Royal Marines o achosion naturiol.

Dywedodd llefarydd o swyddfa Crwner Rhanbarthol Caerwysg a Dyfnaint na fyddai cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth yr is-gapten Gareth Jenkins o Fae Colwyn, oedd yn 25 oed.

Bu farw'r milwr, oedd dan hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddi'r Commandos yn Lympstone, Dyfnaint, wrth gymryd rhan mewn gorymdaith 30 milltir ym mis Mai.

Roedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Eirias ac roedd yn arfer chwarae rygbi i Glwb Rygbi Bae Colwyn.