Siom dros ddosbarth Cymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n galw am sefydlu ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd yn dweud eu bod wedi siomi na fydd dosbarth newydd yn agor yn yr ardal yr wythnos nesaf.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, dim ond tri theulu sydd wedi mynegi diddordeb mewn anfon eu plant i'r dosbarth yn Grangetown, fyddai'n dod o dan adain Ysgol Pwll Coch sydd yn ardal Lecwydd.
Mae ymgyrch TAG wedi bod yn galw am sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown a Thre-biwt. Ysgrifennydd yr ymgyrch yw Huw Williams. Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru ddydd Mawrth dywedodd Mr Williams: "Yn gyffredinol rydyn ni'n siomedig tu hwnt bod y cyngor wedi gwyrdroi'r penderfyniad oherwydd i raddau helaeth nhw sy'n gyfrifol am y ffaith bod cyn lleied o wybodaeth allan yna i rieni.
"Chydig iawn o rieni da ni'n credu sydd tu hwnt i gylch yr ymgyrch sy'n gwybod am y cyfle. Mi aeth y wybodaeth allan i rieni mis Rhagfyr diwethaf fel ag y mae e yn flynyddol. Doedd na ddim unrhyw wybodaeth bendant ynglŷn â'r dosbarth bryd hynny.
"Mi aeth mwy o wybodaeth allan ym mis Mai ond eto roedd hwnna'n cryptic ofnadwy i unrhyw un nad oedd wedi bod yn dilyn yr ymgyrch yn fanwl iawn."
Trafodaethau
Gobaith yr ymgyrchwyr oedd byddai'r dosbarth yn Grangetown o dan adain Ysgol Pwll Coch yn cael ei sefydlu yn adeilad ysgol cyfrwng Saesneg Ninian Park, tra bo'r trafodaethau'n parhau ynglŷn â sefydlu ysgol newydd yn yr ardal.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei bod wedi cadw at eu hymrwymiad i baratoi'r dosbarth erbyn mis Medi, ond eu bod yn gorfod ystyried niferoedd plant er mwyn sicrhau'r profiadau dysgu gorau posib i'r disgyblion.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi ysgrifennu at deuluoedd ledled y ddinas oedd a phlant yn dechrau mewn addysg gynradd fis medi, yn rhoi gwybod iddyn nhw ynglŷn â'r dosbarth yn Grangetown, ond hyd yn hyn dim ond tri theulu sydd wedi cymryd y cyfle i anfon eu plant yno.
Yn ôl y datganiad, mae Ysgol Pwll Coch wedi trefnu i gwrdd â rhieni i drafod y sefyllfa.