Record newydd i anturiaethwr o Fae Colwyn?
- Cyhoeddwyd

Mae anturiaethwr o Fae Colwyn ar fin cychwyn ar daith unigryw ar draws ynys Madagascar yng Nghefnfor India.
Ychydig wedi iddo gipio teitl Anturiaethwr y Flwyddyn 2015, bydd Ash Dykes yn teithio 1,800 o filltiroedd drwy ganol yr ynys, o un pen i'r llall - ef fydd y cyntaf i gwblhau'r daith os fydd yn llwyddiannus.
Mae ei enw eisoes yn gysylltiedig â record byd wedi iddo gerdded ar draws Mongolia.
Bydd ei daith ddiweddara' yn cymryd pum mis o Cap Saint Marie ar begwn deheuol Madagascar i Cap D'Ambre yn y gogledd.
Rhwng y ddau le bydd yn cerdded ar draws anialwch y de, jyngl a choedwigoedd trofannol ac wyth mynydd uchaf yr ynys gan gynnwys yr uchaf - Maromoktoro (2,876m).
Fe fydd hefyd yn croesi ceunentydd a chlogwyni heb sôn am ddelio gyda phob math o anifeiliaid fyddai'n gallu ei ladd, gan gynnwys nadroedd, pryfaid cop gwenwynig a chrocodeilia
Heblaw'r antur amlwg, mae Ash am fachu ar y cyfle i ddysgu am fywyd gwyllt Madagascar. Oherwydd lleoliad yr ynys mae 90% o'r bywyd gwyllt yno yn unigryw ac mae llawer ohono dan fygythiad.
Bydd yn treulio amser gyda rhai o lwythau brodorol yr ynys, ac yn gweithio gyda Rhwydwaith Gwarchod Lemyriaid.
Dywedodd Ash: "Dyw rhannau helaeth o ynys hudol Madagascar heb gael eu hanturio o gwbl felly mae'n gyfle i weld y prydferthwch naturiol sydd yno wrth herio fy hun ar dirwedd sy'n heriol ym mhob ffordd.
"Mae'n bosib na fydd rhai o'r llwythau brodorol yng nghanol yr ynys wedi gweld rhywun o dramor am dros 60 mlynedd ac rwyf am geisio deall sut mae cymunedau fel hyn yn goroesi ac yn ffynnu ar yr ynys."id.