£65m o fuddsoddiad a 50 o swyddi i gwmni awyr

  • Cyhoeddwyd
Cytec Industries Inc site in WrexhamFfynhonnell y llun, Cytec Industries Inc

Mae cwmni yn y diwydiant awyr wedi cyhoeddi buddsoddiad o £65 miliwn ar eu safle yn Wrecsam, gan greu hyd at 50 o swyddi.

Fe fydd Cytec Aerospace Materials yn codi ffatri newydd dros y ffordd i'w ffatri bresennol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Fe ddywed y cwmni, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 230 o bobl, y bydd y ffatri newydd yn cyflenwi cwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd ac ardal Asia/Môr Tawel "er mwyn ateb galw sy'n tyfu ar draws y byd".

Cafwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer ehangu'r safle gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywydd y cwmni, Bill Wood: "Mae'r buddsoddiad yma gan y cwmni yn arwydd clir o'n hymrwymiad i dwf y diwydiant."

Mae disgwyl i waith ar y safle 7,000 metr sgwâr ddechrau ym mis Medi.